Neidio i'r prif gynnwy
Paul Carey

Amdanaf i

Ymunodd Paul â thîm Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru ym mis Ionawr 2022.  Cyn hyn mae Paul wedi gweithio yn y sector preifat i Pirelli i ddechrau fel rhan o'u Rhaglen Datblygu Graddedigion ac yn dilyn hyn yn y Diwydiant Awyrofod lle treuliodd yr 21 mlynedd diwethaf gyda British Airways. Yn ystod y cyfnod hwn bu ganddo nifer o swyddi allweddol ym maes Caffael, Cynllunio Strategol, Rheoli Prosiectau, Cymorth i Gwsmeriaid a Datblygu Busnes. Bydd Paul yn arwain ac yn datblygu'r strategaeth ymgysylltu yn strategol â phartneriaethau, gan adeiladu a chynnal perthynas gref a chredadwy â'r GIG, gofal cymdeithasol, y byd academaidd, diwydiant y trydydd sector a rhanddeiliaid ehangach yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i feithrin diwylliant o bartneriaeth a chydweithredu.