Neidio i'r prif gynnwy

Gweminar i gefnogi dealltwriaeth a chydymffurfiaeth

 

Yn gynharach eleni, rhyddhawyd Cylchlythyr Iechyd Cymru o'r enw Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru - gofynion data (WHC/2022/005) . Disgrifiodd sut y byddwn i gyd yn gyrru'r gwaith o wella gwasanaethau iechyd a gofal drwy fabwysiadu dull cydweithredol o rannu a defnyddio data, a thrwy ddatblygu ein canlyniadau a mesur a dadansoddi costau.

Bydd Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru yn cynnal gweminar 1 awr o hyd ddydd Mawrth 5 Gorffennaf am 12pm i roi rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd y Cylchlythyr hwn, sut y gellir gweithredu'r broses a ddisgrifir ynddo, archwilio offer a all gefnogi casglu canlyniadau'n well a chlywed gan un Bwrdd Iechyd am ei daith casglu canlyniadau hyd yn hyn.  

Bydd amlygu data ar ganlyniadau, a gwneud yr wybodaeth hon yn fwy hygyrch, yn helpu Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i fodloni'r disgwyliad yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru y dylai sefydliadau ddefnyddio dull seiliedig ar werth wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

Mae'r Cylchlythyr hwn yn diweddaru'r trefniadau a nodwyd yn WHC 2020(003) ynghylch casglu a rhannu data archwiliadau clinigol a chanlyniadau a adroddir gan gleifion. Mae'n adlewyrchu sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r agenda iechyd ddigidol ar draws GIG Cymru.

Os hoffech chi neu gydweithwyr ymuno â ni ar gyfer y weminar rhad ac am ddim hon, gallwch gofrestru nawr trwy ddilyn y ddolen hon: https://teams.microsoft.com/registration/uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrg,RBp1P1wuBES6TphaTtuuvQ,0k_3CvawkUaQHZ8meScvfw,6nGbB1sBuUmU8n3ExkvoXQ,wdG8ZD-xz0yVjkTmf9EjNw,K7_NXIGQjkqhDWbWsGQKqg?mode=read&tenantId=bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae