Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein Dangosfwrdd Data Cenedlaethol diweddaraf bellach yn fyw

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y diweddaraf yn ein hystod gynyddol o ddangosfyrddau data bellach ar gael. Dangosfwrdd Triniaethau ar y Glun Cenedlaethol yw'r seithfed i'w ddatblygu a'i gyhoeddi gan Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae'r iteriad cyntaf hwn yn delweddu ac yn cysylltu data prosesu a gesglir ar gyfer triniaethau ar y glun ledled Cymru. Yn benodol, mae gan y dangosfwrdd hwn fynediad at ddata gweithgarwch cleifion ledled Cymru, data Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) a gesglir gan y Platfform PROMs Cenedlaethol, a data Gwasanaeth Canlyniadau ac Adroddiadau Cymru. Datblygwyd y dangosfwrdd i gefnogi dull sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer Orthopedeg drwy adnabod arferion da ac amrywiadau. Ei nod yw llywio gwelliannau cadarnhaol sy'n cynyddu gwerth i gleifion ledled Cymru.  

Byddwn yn cynnal sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ddydd Gwener 18 Chwefror, dan arweiniad Mr Phill Thomas, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac sy’n aelod o dîm Canolfan Gwerth Mewn Iechyd Cymru. Bydd y dangosfwrdd yn cael ei ddangos i aelodau'r gynulleidfa. Yna byddant yn cael cyfle i ofyn cwestiynau, rhoi adborth a thrafod gwelliannau pellach y gellid eu gwneud. 

Mae gwaith eisoes ar y gweill ar nifer o welliannau i'r dangosfwrdd hwn. Oherwydd datblygiadau diweddar, mae'n bosibl bellach i ni fynd ati i dderbyn data gan Gofrestrfa Genedlaethol y Cymalau (NJR), a gaiff eu delweddu yn y dangosfwrdd yn fuan. Yn olaf, o ystyried y bydd yr Hysbysiadau Newid Safon Data ar waith yn fuan, byddwn yn gweithio i dderbyn data PROMs o unrhyw blatfform a ddefnyddir i'w casglu, drwy annog y cyflenwyr platfform hynny i gyd-fynd â'r Model Gweithredu Safonol PROMs (PSOM) rydym wedi'i greu.

Ymhen amser, rydym yn gobeithio datblygu'r dangosfwrdd hwn a phob un arall i driongli data proses, canlyniadau a chostio, fel y gall rhanddeiliaid fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ddata wrth ddylunio gwasanaethau a chanolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion. 

Os ydych yn gweithio yn GIG Cymru ac os hoffech weld y dangosfwrdd, gallwch gael mynediad ato a gweld ein hystod lawn o ddangosfyrddau yma

Bydd datganiad newydd o'r Dangosfwrdd Cenedlaethol Arthroplasti Pen-glin Cenedlaethol ar gael yn fuan. Bydd rhagor o fanylion am hynny i ddilyn yn fuan.