Neidio i'r prif gynnwy

Ymagwedd genedlaethol tuag at ddeall COVID Hir

Mae COVID hir neu Syndrom Ôl-COVID yn dermau y bydd llawer ohonom wedi'u clywed dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cânt eu defnyddio i ddisgrifio symptomau sy'n parhau am fwy na 12 wythnos, yn dilyn achos a gadarnhawyd neu a amheuir o COVID-19. Er y gallai rhywun fod wedi cael ymateb ysgafn neu hyd yn oed asymptomatig i'r feirws ei hun, caiff llawer o bobl symptomau yn dilyn hynny fel diffyg anadl, poen yn y cymalau, blinder a meddwl pŵl, i enwi dim ond rhai. Does dim cysondeb o ran symptomau ar gyfer pawb sy’n dioddef o COVID hir. Gall effeithio ar y corff cyfan, a gall symptomau newid neu fynd a dod gydag amser. Nid oes un cwrs o driniaeth ychwaith a all helpu i gael gwared ar symptomau.

Ar 15 Mehefin 2021, cyhoeddodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru lansiad y Rhaglen Adferiad (Recovery), a ddyrannodd £5 miliwn (yn ystod blynyddoedd 2021/22) i Fyrddau Iechyd Cymru i gyflwyno cyfres newydd o lwybrau cleifion ynghyd â gwasanaethau adsefydlu sylfaenol, eilaidd a chymunedol newydd neu estynedig i gefnogi pobl â COVID hir.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r rhaglen Adferiad (Recovery) bob 6 mis i fonitro ac asesu effeithiolrwydd y gwasanaethau newydd a ddarperir. Felly, mae'n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd yn GIG Cymru ddarparu gwybodaeth am sut y maent wedi bod yn gweithredu'r rhaglen yn lleol ac a yw'n gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n dioddef o symptomau COVID hir yng Nghymru.

Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, cynigiodd Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru a'n partneriaid yn Cedar, gefnogi Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd yn y Byrddau Iechyd yng Nghymru drwy hwyluso'r gwaith o gasglu mesurau canlyniadau a phrofiadau cleifion perthnasol (PROMs a PREMs) drwy gyfres o arolygon y cytunwyd arnynt. Yna, bydd yn cymryd y data a gasglwyd a’u dadansoddi i'w hadrodd ar lefel genedlaethol.

Cefnogodd y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru y gwaith o greu'r arolygon drwy drwyddedu, datblygu, cyfieithu a defnyddio 56 o arolygon gwahanol (wyth ar gyfer pob bwrdd iechyd, gan gynnwys opsiynau Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd). Mae ein cydweithwyr yn Cedar wedi hwyluso'r gwaith o gasglu data ac wedi bod yn adrodd data yn ôl i holl Fyrddau Iechyd Cymru yn fisol ers mis Medi 2021.

Mae Cedar hefyd wedi bod yn dadansoddi'r holl ddata a gasglwyd ar unrhyw blatfformau, ac wedi cyflwyno eu canfyddiadau cychwynnol ganol mis Ionawr ac mae adroddiad arall i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.  Mae nifer o Fyrddau Iechyd hefyd wedi comisiynu Cedar i wneud gwaith ychwanegol ar ffurf astudiaethau achos cleifion, ac adroddiadau â ffocws gan gynnwys gwerthusiadau economaidd a dadansoddiad adenillion cymdeithasol o fuddsoddi.

Mae'r gwaith hwn yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio effeithiol arwain at ddull effeithlon a chyson o ymdrin â her benodol i bob Bwrdd Iechyd ar draws GIG Cymru, dan arweiniad Cyfarwyddwyr Therapïau ac a hwylusir gan Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru.

Gyda channoedd o arolygon wedi'u cwblhau eisoes yn cael eu dadansoddi, bydd yr astudiaeth hon yn darparu data gwerthfawr i wella ein dealltwriaeth o sut mae COVID Hir yn effeithio ar bobl yng Nghymru mewn gwirionedd. Ymhen amser, bydd hefyd yn helpu i hysbysu Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd am sut y dylai Byrddau Iechyd ledled Cymru gynllunio gwasanaethau a all wella canlyniadau i'r cleifion hyn yn y dyfodol.