Rhaglen waith genedlaethol yw Gwerth mewn Iechyd sydd â’r nod o sicrhau dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar draws GIG Cymru er mwyn cefnogi egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus.
Ein gweledigaeth yw cydweithio â sefydliadau i wella’r canlyniadau iechyd sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru.
Byddwn yn cefnogi hyn drwy ofyn i bobl am eu canlyniadau iechyd a thrwy greu system a ysgogir gan ddata sy’n ceisio rhoi gwybodaeth amserol a pherthnasol i ddinasyddion, timau clinigol a sefydliadau. Dylai hyn lywio gwneud penderfyniadau wedi’i ganoli ar y claf er mwyn gwella canlyniadau cleifion mewn modd sy’n ariannol gynaliadwy.