Neidio i'r prif gynnwy

Addysg ac ymchwil

Mae gwreiddio diwylliant o werth yn elfen bwysig o’r nodau sylfaenol ar gyfer Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ofal iechyd sy’n seiliedig ar werth i bob aelod staff ar draws GIG Cymru. Yna, mae angen cyfle i staff wella eu gwybodaeth a’u harweinyddiaeth wrth weithredu dull sy’n seiliedig ar werth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. 

Yr Academi Gofal ac Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth (VHBC) ym Mhrifysgol Abertawe yw’r gyntaf o’i bath, yn rhyngwladol, sydd wedi ymrwymo i gefnogi arweinwyr a sefydliadau i fabwysiadu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn llwyddiannus. Mae’r Academi yn gweithio ochr yn ochr â’r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru ac mae’n gysylltiedig â’r Gynghrair Ewropeaidd ar gyfer Gwerth mewn Iechyd.

Mae’r Academi, a luniwyd ar gyfer uwch a darpar arweinwyr yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd, yn cynnig addysg lefel Gradd Meistr, Gradd Doethuriaeth a Gweithredol yn ogystal â dosbarthiadau meistr a symposia ynghyd â chyfleoedd ymchwil ac ymgynghori mewn iechyd a gofal sy’n seiliedig ar werth.

Gallwch ddarllen rhagor am y cyfleoedd dysgu sydd ar gael trwy’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth trwy ymweld â www.swansea.ac.uk/som/vbhc-academy neu gallwch e-bostio’r tîm ar vbhcacademy@swansea.ac.uk

Mae llawer o bethau anhysbys ledled y byd o hyd ynglŷn â gweithredu gofal iechyd  sy'n seiliedig ar werth.  Yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa dda i gydweithredu'n academaidd a chynnal ymchwil i sawl agwedd ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.  Bydd rhywfaint o hyn yn cael ei arwain yn fewnol gan ein harbenigwyr yn Cedar, bydd rhywfaint yn cael ei gynnal gan yr Academi Dysgu Dwys ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd rhywfaint yn cael ei wneud gyda phartneriaid academaidd eraill ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.  

Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio dull o weithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar bob agwedd o ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yng Nghymru ac i gynnal enw da Cymru fel arweinydd yn y maes hwn.