Neidio i'r prif gynnwy

Cyflenwi Gwerth

Mae cyfleoedd i ymgorffori dull sy'n seiliedig ar werth ar bob cam o'r llwybr gofal iechyd, y mae llawer o enghreifftiau gwych eisoes wedi'u cyflwyno gan dimau ledled Cymru.  Gan weithio gyda'n partneriaid, byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ein rhaglenni i alluogi cyflenwi gwerth ar hyd y llwybr cyfan, ar gyfer poblogaeth Cymru gyfan, yn deg.

Rydym yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cyhoeddi tystiolaeth o ganlyniadau gwell a/neu ddyrannu adnoddau wedi'u hoptimeiddio ar draws y llwybr cyfan (atal hyd at ddiwedd oes).
  • Cynnig cefnogaeth i brosiectau enghreifftiol sy'n dangos sut y gall newid diwylliannol ac isadeiledd i ddull gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth wella canlyniadau a chreu darpariaeth gofal iechyd mwy cynaliadwy sy'n diwallu anghenion esblygol ein poblogaeth.
  • Datblygu dulliau newydd o 'ariannu am werth'.
  • Cynnal gwerthusiadau ar sail tystiolaeth o fodelau gofal newydd cyn ehangu.
  • Dangos tystiolaeth o'r defnydd o ddull cynllunio a chyfluniad gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.