Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Proffesiynol

Mae’r ddelwedd yn dangos nifer o glinigwyr yn edrych ar nodiadau claf.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i weithwyr proffesiynol? 

Mae’r dudalen hon wedi’i hanelu at unrhyw weithiwr proffesiynol yn y sector gofal iechyd sydd eisiau rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn mae Gwerth mewn Iechyd yn ei olygu iddynt hwy a sut y gellir ei ddefnyddio yn eich meysydd. 

Mae’r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd yn rhaglen waith eang ac mae’r tîm Gwerth mewn Iechyd yn awyddus i weithio mwy ar y cyd gyda sefydliadau ar draws Cymru. 

Hyd yma, cytunwyd yn genedlaethol ar 46 o lwybrau cyflyrau gan grwpiau cyfeirio clinigol ac mae’r holl lwybrau hyn ar gael ar hyn o bryd i chi ar y platfform PROMs cenedlaethol. 

Ewch i’r dudalen  cynhyrchion i weld y rhestr yn llawn. 

“Gall PROMs fod yn amhrisiadwy er mwyn cynorthwyo i optimeiddio canlyniadau ar nifer o lefelau: 

  • Ar gyfer claf unigol, maent yn galluogi’r tîm clinigol i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r claf. Gall data PROMs cyfanredol roi sail ar gyfer gwneud penderfyniadau i’r claf unigol am ei ofal ei hun, yn seiliedig ar brofiad pobl eraill sy’n dioddef gyda chyflwr tebyg. 

  • Ar gyfer carfan o gleifion, maent yn rhoi data a allai fod yn sail i welliannau i lwybrau cleifion, canlyniadau triniaethau penodol a dewis yn briodol cleifion ar gyfer triniaethau o’r fath. 

  • Ar lefel y bwrdd iechyd a’r boblogaeth, gallai data PROMs alluogi gofal mwy effeithlon ac effeithiol a lleihad mewn gwariant ar ymyriadau gwerth isel. Byddai cyfleoedd yn cael eu creu ar gyfer buddsoddiad pellach mewn triniaethau sy’n dangos gwerth mewn gofal iechyd”. 

Dr Susan Goodfellow, Arweinydd Gwelliant Clinigol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth 

I gael gwybodaeth fel mater o frys,  Cysylltu â Ni