Neidio i'r prif gynnwy

Polisi a diwylliant

Mae polisi Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'n glir yr angen i gynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu gofal, ac mai egwyddorion gofal iechyd darbodus a gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth fydd y sail ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau.

Mae gweithredu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn newid diwylliannol a thrawsnewidiol mawr sydd wedi tyfu o lawr gwlad yng Nghymru, fel mecanwaith cyflawni ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus. Mae'r egwyddorion yn bwysig o ran ategu'r ffordd rydym yn ail-lunio ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth yng Nghymru sy'n esblygu. Wrth i ni ddysgu ac esblygu, bydd gan bob rhan o'r system ran i'w chwarae, o bolisi i gyfarfodydd clinigol. Mae'r dull sy'n seiliedig ar werth yn sail i ddarparu'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol wrth gefnogi creu system Iechyd a Gofal sy’n Dysgu.

Mae llawer o Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru eisoes wedi sefydlu timau ymroddedig i ganolbwyntio ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.  O dan stiwardiaeth Grŵp Arweinwyr Cenedlaethol ar gyfer Cynllunio a Chyflawni Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, bydd y timau hyn yn cyflwyno mentrau drwy gydol y llwybr gofal iechyd sy'n gwella'r canlyniadau sydd bwysicaf i gleifion, staff a'r boblogaeth ehangach.