Neidio i'r prif gynnwy

Safonau Data

Safonau

Yn sylfaenol, safoni data yw’r broses o gasglu, codio a storio data mewn fformat cytûn sy’n caniatáu ar gyfer ymchwil, dadansoddi, datblygu systemau a rhannu arfer gorau yn effeithiol. Byddai gweithio ar y cyd yn y ffyrdd hyn ledled Cymru yn gwella ein system gofal iechyd a’r canlyniadau i’n poblogaeth.

Mae cael set gytûn o safonau data y mae pob rhanddeiliad mewn system gofal iechyd yn eu deall ac yn eu mabwysiadu yn alluogwr allweddol o ran gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth, gan ei fod yn caniatáu i ddata symud rhwng systemau neu gymwysiadau gwahanol, a chadw diffiniad neu ystyr cyson ar yr un pryd. Gelwir hyn hefyd yn rhyngweithredu.  

Mae Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau rhyngweithrededd data yn GIG Cymru, yn benodol data canlyniadau a adroddir gan gleifion. Mae’r tîm digidol yn datblygu set o safonau data, safonau proses a safonau rhyngweithredu y gellir eu cymryd a’u cymhwyso ar lefel sefydliad wrth ddechrau casglu canlyniadau.

Er mwyn helpu i wella safonau data, mae ein tîm yn datblygu rhestr o hysbysiadau newid safonau data cyflwr-benodol (DSCNs). Bydd hyn yn cynnwys canllawiau llwybr cysylltiedig a’r manylion technegol sy’n galluogi sefydliadau i roi’r camau angenrheidiol ar waith o ran cydymffurfio â chodio a strwythuro data ar gyfer casglu canlyniadau a adroddir gan gleifion mewn amrywiaeth eang o lwybrau cyflyrau a llwybrau cyffredinol.