Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n bwysig i gleifion

Er mwyn penderfynu beth sy'n bwysig i gleifion mae angen i ni ofyn iddynt. Un ffordd bwysig o wneud hyn yw edrych ar Fesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs). Mae PROMs yn asesiadau strwythuredig sy'n galluogi pobl i sgorio eu hunain ar eu symptomau presennol (PROM cyflwr-benodol) ac ansawdd bywyd (PROM generig). Ar eu pen eu hunain, gallant ddarparu cyfathrebu defnyddiol rhwng unigolyn a'i dîm gofal iechyd i gefnogi gofal uniongyrchol, neu alluogi unigolyn i olrhain ei gynnydd neu ei adferiad ei hun.

Dylem felly wneud yn siŵr nad ydym yn gweld canlyniadau fel pwynt terfyn yn unig. Gallant hefyd fod yn garreg filltir neu’n statws ar adeg benodol i unigolyn adrodd sut y mae’n dod ymlaen – mewn meysydd o’u bywyd sydd o bwys iddynt, ac mewn ffordd strwythuredig. Gall PROMs cyfanredol ddarparu asesiad anghenion defnyddiol, sy'n ddefnyddiol wrth bennu datblygiad gwasanaethau lleol neu genedlaethol.

Ceir rhai enghreifftiau gwych ledled Cymru pan fo casglu PROMs yn llywio ac yn trawsnewid y ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu er mwyn sicrhau canlyniadau gwell sydd o bwys i gleifion. Fodd bynnag, ni chesglir yr wybodaeth hon ar draws pob maes clinigol. Os ydym wir eisiau gwneud GIG Cymru yn system gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth, yna mae angen inni greu’r seilwaith i gasglu’r data cywir yn gyson a’i droi’n wybodaeth ddefnyddiol sy’n galluogi cleifion yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud y penderfyniadau cywir. Mae cefnogi’r gwaith o ddarparu’r seilwaith hwn yn rhan fawr o’r hyn y mae Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru yn ei wneud ledled Cymru.