Neidio i'r prif gynnwy

Polisi Preifatrwydd

Diben

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu neu ei

chyflwyno ar wefan Ganolfan Gwerth mewn Iechyd. Mae’n nodi pa wybodaeth rydyn

ni’n ei chasglu, sut a pham rydyn ni’n ei chasglu.

Fel y disgrifir o fewn darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 y DU (gwefan allanol) a

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018, rydyn ni’n cymryd mesurau priodol i

gadw eich data ar ein gwefan yn ddiogel. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn

llywodraethu’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu ac mae defnyddio’r wefan hon yn golygu

eich bod chi’n cytuno ag ef.

 

Yr Wybodaeth Rydyn ni’n ei Chasglu

Gwybodaeth Bersonol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan. Pan fyddwch chi’n

darparu data sy’n datgelu pwy ydych chi ar y wefan hon yn wirfoddol (gan gynnwys

ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), fydd y wybodaeth hon ond yn cael ei

defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben arfaethedig. Nid ydym yn rhannu

gwybodaeth am ddefnyddwyr y wefan gyda thrydydd partïon.

 

Olrhain Defnyddwyr

Rydyn ni’n monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella’r cynnwys ar y

wefan. Mae Google Analytics (gwefan allanol) yn wasanaeth rhad ac am ddim gan

Google (gwefan allanol) sy’n creu ystadegau manwl am yr ymwelwyr â gwefan.

Ymhlith y wybodaeth sy’n cael ei chasglu mae tudalennau sy’n cyfeirio / tudalennau

gadael, patrymau clicio, tudalennau mwyaf / lleiaf poblogaidd, hyd sesiynau, nifer yr

ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu

gan ddefnyddio cwcis

 

Sut Rydyn ni’n Casglu Gwybodaeth

Google Analytics

Mae’n bosib y bydd y wefan hon yn defnyddio Google Analytics (gwefan allanol), sef

gwasanaeth dadansoddi gwe gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn

defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript er mwyn helpu i ddadansoddi gweithgarwch

defnyddwyr ar wefannau. Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chreu am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau ac yn cael ei storio ar y gweinyddion hynny. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau o weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’n bosib hefyd y bydd Google yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon pan fydd hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Fydd Google ddim yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall oedd yn cael ei gadw o’r blaen. Cewch chi wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Sylwch os bydd cwcis wedi cael eu hanalluogi, mae’n bosib na fydd popeth ar y wefan hon yn gweithio. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cydsynio i Google brosesu data amdanoch chi yn y modd ac at y dibenion sydd wedi eu nodi uchod. Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn (gwefan allanol) a Thelerau Gwasanaeth (gwefan allanol) Google am ragor o wybodaeth.

 

Beth yw Cwcis?

Ffeiliau bach yw cwcis y mae gwefannau’n eu rhoi ar ddisg galed eich cyfrifiadur pan

fyddwch chi’n ymweld â nhw. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau

bob tro byddwch chi’n ymweld â nhw. Maen nhw’n cael eu defnyddio i adnabod porwyr

gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth ynglŷn â dewisiadau

defnyddwyr. Gallwch chi gyfyngu/analluogi cwcis ar eich porwr. Sylwch, fydd rhai

gwefannau ddim yn gweithio’n iawn o bosibl heb gwcis.

 

Pam Rydyn ni’n Casglu Ystadegau am Ddefnyddwyr

Drwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydyn ni’n gallu gwella’r cynnwys

ar ein gwefan i fodloni disgwyliadau a diwallu anghenion defnyddwyr.

 

Gwefannau Allanol

Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddolenni allanol; wrth gasglu

gwybodaeth, mae gwefannau o’r fath yn ddarostyngedig i bolisïau preifatrwydd

perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol a

byddwch chi’n defnyddio gwefannau o’r fath ar eich disgresiwn eich hun.