Neidio i'r prif gynnwy

Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd 

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Gwerth mewn Iechyd:

https://gisw.gig.cymru/

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y tîm cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd. Rydyn

ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn

golygu y dylech chi fod yn gallu gwneud y canlynol:

  • Gwneud y llun yn fwy (hyd at 200%) heb i rannau o’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Mynd i’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 
  • Mynd i’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydyn ni wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosib i’w ddeall hefyd. Mae

AbilityNet yn rhoi cyngor ar sut i’w gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio eich dyfais os

oes anabledd gyda chi.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
  1. Mae rhai tudalennau'n cynnwys testun sydd â chyferbyniad gwael o ran lliwiau
  2. Mae rhai tudalennau'n cynnwys penawdau nad ydyn nhw wedi’u trefnu'n
  3. rhesymegol
  4. Nid yw’n bosibl defnyddio rhai tudalennau'n llawn gyda'r bysellfwrdd
  5. Mae trefn ffocws rhai tudalennau yn afresymegol

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt 

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF

hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â

ViH@wales.nhs.uk a byddwn ni’n trosglwyddo'ch cais i'r tîm perthnasol. Byddwn ni’n

ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon 

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd yn eich barn chi, cysylltwch â ViH@wales.nhs.uk

 

Gweithdrefn orfodi 

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi

Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (gwefannau a chymwysiadau

symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os na fyddwch chi’n fodlon ar y

ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth

Cydraddoldeb (EASS). 

 

Manylion technegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r tîm cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn

hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a

Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

 

Datganiad Cydymffurfiaeth 

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd

Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.   

 

Cynnwys anhygyrch 

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol. 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd 

  1. Mae rhai dewislenni a rhannau o rai tudalennau wedi'u marcio mewn ffordd a all eu gwneud yn ddryslyd pan gânt eu cyrchu gan ddefnyddio Technolegau Cynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth Lefel A
  2. Nid oes digon o wrthgyferbyniad rhwng rhywfaint o’r testun a'i gefndir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) Lefel AA.
  3. Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd Lefel A
  4. Nid yw’n bosibl defnyddio rhai rhannau o rai tudalennau yn llawn gyda'r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.1.1 Lefel A Bysellfwrdd
  5. Mae trefn ffocws rhai elfennau yn afresymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 Gorchymyn Ffocws Lefel A

 

Baich anghymesur 

Er y byddwn ni’n blaenoriaethu gwybodaeth cleifion i sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydyn ni’n gwybod bod rhai adrannau o’n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydyn nhw’n hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018.     Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn ni’n nodi lle rydyn ni’n gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd.  Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn ni’n sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.   Ar hyn o bryd, mae'r adrannau hyn wedi'u rhestru isod: (ac yn destun newid). 

· Adroddiadau a all gynnwys deunydd adrodd/data ystadegol cymhleth

· Polisïau a gweithdrefnau sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018

· Cyhoeddiadau sydd wedi'u cysylltu o'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys logiau datgelu

· Cyhoeddiadau a all fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid i drydydd parti eu trwsio.  

 

Gwe-lywio a chyrchu gwybodaeth 

· Nid yw hi bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol

heb ei gwneud hi'n anoddach gweld y cynnwys. 

· Nid yw hi’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys

orgyffwrdd. 

 

Cynnwys sydd y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd  

Dogfennau PDF a dogfennau eraill 

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er

enghraifft, o bryd i'w gilydd mae gennym ni ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth

am sut y gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i

gleifion a ffurflenni sy’n cael eu cyhoeddi fel dogfennau Word. Erbyn mis Gorffennaf

2023, rydyn ni’n bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle.  Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau’r Bwrdd a Phwyllgorau, dogfennau polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol.  Fodd bynnag, byddwn ni’n ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.  Fideo byw  Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.  Fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn ceisio darparu fersiynau wedi'u hisdeitlo o fideos a recordiwyd ymlaen llaw. 

 

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd 

Erbyn mis Gorffennaf 2023, rydyn ni’n bwriadu newid y canlynol er mwyn cydymffurfio’n

llawn â safonau WCAG 2.1 AA:

· Newid lliwiau er mwyn sicrhau bod gan bob testun a chefndir y lefel ofynnol o

gyferbyniad

· Sicrhau bod gan bob elfen drefn ffocws rhesymegol a threfn tabiau

· Ychwanegu testun amgen i bob delwedd

· Adolygu a throsi dogfennau PDF a dogfennau Word i HTML lle y bo'n briodol

· Sicrhau bod yr holl elfennau rhyngweithiol ar gael i ddefnyddwyr technolegau

cynorthwyol fel darllenwyr sgrin

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Gorffennaf 2022. Bydd yn cael ei adolygu ym mis

Gorffennaf 2023. 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2022. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol

gan y tîm cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd.