Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodeg Iechyd

Mae gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn gofyn am ddull sy’n seiliedig ar ddata o wneud penderfyniadau ar bob lefel, p'un ai yw hynny i gefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd yn yr ymgynghoriad, ar gyfer gwella ansawdd mewn gwasanaeth, ar gyfer dyrannu adnoddau neu ar gyfer ymchwil. 

Un agwedd allweddol yw'r broses o gasglu canlyniadau a gofnodir gan gleifion. Mae'r holiaduron strwythuredig hyn sydd wedi'u codio'n gyffredin yn adroddiadau statws pwysig am faich symptomau ac ansawdd bywyd unigolyn ar ddiwrnod penodol. Gallant fod yn offeryn pwysig i gefnogi gofal ac felly mae'n rhaid iddynt gael eu hymgorffori'n dechnegol ar draws ein system gwybodaeth gofal iechyd i'w defnyddio gan gleifion a'u clinigwyr i gefnogi modelau gofal newydd.

Mae polisi Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'n glir yr angen i gynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu gofal, ac mai egwyddorion gofal iechyd darbodus a gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth fydd y sail ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau.

Mae ymgorffori'r dull cywir o gasglu mesurau canlyniadau a gofnodwyd gan gleifion (PROMs) yn un elfen hanfodol wrth alinio â'r polisïau a nodir yn 'Cymru Iachach', 'Y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol' a 'Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol 2022-2025'.

Yng Nghanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, byddwn yn canolbwyntio ar:

• Driongli gwybodaeth – canlyniadau, costio a phrosesu data gyda'i gilydd. Mae hyn er mwyn i ni allu deall beth sy'n digwydd yn ein system a dod o hyd i atebion i gynyddu gwerth i gleifion.

• Parhau i ddod â chlinigwyr a dadansoddwyr at ei gilydd i ddechrau ateb rhai o'r cwestiynau allweddol sy'n effeithio ar y GIG heddiw, fel y gallwn ddod yn stiwardiaid effeithiol o adnoddau penodol a gwella canlyniadau ar lefel unigolyn a phoblogaeth. Ysgogi data o ansawdd da. Rydym eisoes yn mynd i'r afael â'r materion digidol a thechnegol sy'n gysylltiedig â'r canlyniadau a gofnodwyd gan gleifion ac a gasglwyd mewn gofal uniongyrchol.

• Sicrhau bod data ar gael mewn systemau clinigol a gallu cael ei echdynnu a'i gysylltu â data arall i'w ddadansoddi i gefnogi gwella gwasanaethau. Mae'r gwaith manwl hwn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru a'n partneriaid allweddol i sicrhau dull di-dor o fynd i'r afael â'r holl faterion perthnasol gan gynnwys safonau data, rhyngweithredu semantig a llywodraethu gwybodaeth.