Neidio i'r prif gynnwy

Delweddu data

Mae llawer iawn o ddata ar gael i'w dadansoddi ar draws GIG Cymru. Sut y caiff y data hynny eu casglu, eu cyfuno, eu dadansoddi, eu cyflwyno a'u defnyddio yw'r allwedd i ddarparu system sy'n cael ei gyrru gan ddata. Gall delweddu data yn effeithiol fod y gwahaniaeth rhwng deall mewnwelediadau a gweithredu arnynt, a methu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd trwy ganolbwyntio ar y pethau anghywir.

Mae Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda thimau clinigol ymgysylltiedig i ddatblygu dangosfyrddau data ac atlasau amrywiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r cynhyrchion hyn, ond hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru a thu hwnt i esblygu'n barhaus y ffyrdd yr ydym yn delweddu data i gefnogi gwell dealltwriaeth a chamau gweithredu sy'n cael eu cymryd i wella canlyniadau i bawb.

Mewn ymgais i wneud ein cynhyrchion data hyd yn oed yn fwy hygyrch, rydym yn agos at ddarparu dangosfyrddau delweddu ar lefel cleifion ym Mhorth Clinigol Cymru ar gyfer nifer o grwpiau cleifion. Mae'r gallu i weld PROMs cleifion fel delweddiadau data mewn lleoliad gofal uniongyrchol yn sail ar gyfer y sgwrs rhwng y claf a'r clinigwr yn ystod apwyntiad clinig.  Bydd yn caniatáu i glinigwyr weld a dadansoddi'r canlyniadau sy'n bwysig i'r claf, ochr yn ochr ag elfennau eraill o gofnod y claf, gan alluogi'r clinigwr i deilwra'r apwyntiad, y driniaeth a'r gofal i anghenion y claf.