Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Nododd y rhaglen Gwerth mewn Iechyd Gynllun Gweithredu cychwynnol yn 2019 gyda'r nod o ymgorffori gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth ar draws darparu gofal iechyd yn GIG Cymru.  Ers hynny, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran creu amgylchedd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sydd o bwys i gleifion ynghyd â newidiadau i seilwaith er mwyn creu system a arweinir yn fwy gan ddata.

Roedd y rhaglen yn cwmpasu'r rhaglen PROMs genedlaethol o fis Gorffennaf 2019 ac mae bellach yn gallu mynd â gweithredu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yng Nghymru i'r cam nesaf gyda chreu'r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru ym mis Hydref 2021, dan nawdd y Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid yng Ngrŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae ein nodau cychwynnol ar gyfer y rhaglen wedi esblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ac wrth i ofal iechyd sy’n seiliedig ar werth dyfu, bydd gennym bellach chwe maes ffocws allweddol:

  • Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Iechyd Digidol
  • Gweithredu – ar draws GIG Cymru
  • Cyfathrebu, Ymgysylltu ac Addysg
  • Effaith – sicrhau gwerth
  • Ymchwil, Diwydiant a Phartneriaethau Strategol

Ein gweledigaeth yw cyflawni canlyniadau iechyd o'r radd flaenaf i bobl Cymru mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn ariannol. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth, cymorth, arbenigedd a chyfeiriad strategol ar draws GIG Cymru sy'n ysgogi canlyniadau gwell i gleifion.