Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid

Mae cost yn elfen hanfodol o'r hafaliad gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth ac mae angen i ni wybod ein costau ar draws y system gyfan er mwyn deall effaith ein penderfyniadau ar ganlyniadau, ac ar berfformiad cyffredinol.

Mae rôl cyllid wrth ddarparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu cymorth technegol i gostio a gwybodaeth ariannol ar gyfer prosiectau unigol. Yn ogystal ag arweinydd costio penodol sy'n ymwneud ag unrhyw brosiect gwerth, mae'n hanfodol bod y gymuned gyllid ehangach yn deall y rôl y bydd angen iddi ei chwarae, os ydym am ddarparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth i Gymru yn llwyddiannus.

Mae cost i bopeth o fewn y system a thrwy nodi'n gywir y rheiny ar draws llwybr cyfan, gallwn ddechrau deall sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio, nodi meysydd lle mae amrywiad, lleihau gwastraff a gwella canlyniadau.

Mae gwariant gofal iechyd yn parhau i dyfu fel canran o'r gwariant cyhoeddus cyffredinol yng Nghymru ac felly nid yw heb ganlyniadau negyddol ar addysg, chwaraeon, hamdden a gwasanaethau eraill — yr union bethau sy'n gwella ein hiechyd, ein ffyniant a'n lles. Bydd angen gwneud dewisiadau bob amser ynghylch ble i gyfeirio adnoddau. Mae canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymagwedd gydweithredol ar draws pob disgyblaeth yn ein galluogi i wneud hyn yn well, ac yn decach.