Ymunodd Amanda â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar ôl graddio ym mis Medi 1997. Ers hynny mae wedi ymgymryd â gwahanol rolau rheoli ar draws y Bwrdd Clinigol Llawfeddygol yn cynnwys 13 o flynyddoedd gyda’r Gyfarwyddiaeth Trawma ac Orthopedeg fel Dirprwy/Rheolwr Dros Dro y Gyfarwyddiaeth.
Pan oedd yn y rôl hon y dechreuodd Amanda ddangos diddordeb brwd yn PROMs a chyflwynodd broses casglu gwybodaeth adran gyfan wedi’i safoni o fewn arbenigeddau'r glun a’r pen-glin. Roedd hyn yn cynnwys dylunio proses lle gellid defnyddio PROMs i lywio asesiad rhithwir/o bell yn dilyn llawfeddygaeth cymalffurfiad y glun neu’r pen-glin, gan sicrhau lleihad o 95% yn y galw am apwyntiadau dilyn i fyny wyneb yn wyneb. Ers hynny mae’r dull hwn wedi cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru ac ar hyn o bryd mae’n cael ei gyflwyno ledled y wlad.
Ymunodd Amanda â Rhaglen PROMs, PREMs ac Effeithiolrwydd ym mis Medi 2016, ac integreiddiwyd y rhaglen yn ddiweddarach gyda’r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol. Bydd Amanda yn canolbwyntio ar sicrhau mecanweithiau cyson ar gyfer casglu ac adrodd ar ganlyniadau er mwyn cefnogi “Cymru iachach” a ysgogir gan ganlyniadau.