Mae Emma yn Rheolwr Prosiect o fewn tîm Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Ymunodd â GIG Cymru yn 2015 gan weithio o fewn Gwella 1000 o Fywydau (a elwir bellach yn Gwelliant Cymru) a chefnogodd raglen Academi Gwelliant Cymru. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ar gyfer Academi Gwelliant Cymru, gan gynnwys sefydlu gwefan newydd Academi Gwelliant Cymru a'r system rheoli dysgu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno cyrsiau. Bu hefyd yn rheoli’r gwaith o weithredu'r gymuned Q yng Nghymru. Dechreuodd Emma gyda'r tîm Gwerth Mewn Iechyd (ViH) ym mis Ionawr 2022, a bydd yn defnyddio ei sgiliau rheoli prosiect i gefnogi nifer o brosiectau sy'n gysylltiedig â gweithredu a defnyddio Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) i ddechrau, yn ogystal â mentrau gwerth ehangach eraill. Yn ei hamser hamdden, mae Emma'n hoffi treulio amser gyda'i phlant a mynd am dro yng nghefn gwlad Cymru