Mae Sally wedi gweithio o fewn gwybodaeth yn y GIG am yr 17 mlynedd diwethaf, yn bennaf ym meysydd iechyd y boblogaeth ystadegau a chysylltiad data. Mae Sally wedi gweithio ar lawer o briosectau ar draws sawl sefydliad gan gynnwys Atlas Amrywio Cardiofasgwlaidd (2019), yr offeryn mapio rhyngweithiol Mapiau Iechyd Cymru ac, yn fwy ddiweddar, Cleifion Cysgodol ar gyfer ymateb gwybodaeth Coronafirws GIG Cymru. Ymunodd Sally â'r tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ym mis Medi 2019, gan arwain tîm o ddadansoddwyr o fewn Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithio i hwyluso dadansoddiad o deithiau cleifion, a gyflawnwyd o gysylltu setiau data gwahanol gan gynnwys PROMs ac archwilio clinigol a sicrhau bod y data ar gael trwy ddangosfyrddau data canlyniadau lle gall defnyddwyr gael dealltwriaeth ddyfnach o'r data sy'n ofynnol i ysgogi gwelliant.