Neidio i'r prif gynnwy

Stori Gareth ar ei brofiad gyda PROMS

Gwyliwch y clip isod i glywed stori Gareth a beth oedd canlyniadau'r claf a adroddwyd iddo yn ei olygu yn ystod ei brofiad

 

Roeddwn i’n 14 oed.

Roeddwn i’n chwarae rygbi.

Baglais, sythodd fy nghoes a mynd yn syth drwy’r glun gan falu asgwrn fy nghlun yn deilchion.

Roedd yn rhaid i mi fynd i’r ysbyty ac roedd hi’n bythefnos cyn i mi gael fy llawdriniaeth.

Cefais y llawdriniaeth, gadewais yr ysbyty ac roedd popeth yn iawn.

Doeddwn i’n dal ddim yn gallu cerdded yn iawn a bu’n rhaid i mi ddefnyddio baglau am tua dwy flynedd.

Gan na wnaeth fy anaf ymateb yn ddigon da i’r llawdriniaeth cefais wybod bod angen i mi gael llawdriniaeth arall er mwyn cael clun newydd, ond nad oeddwn i wedi gorffen tyfu er mwyn i hynny ddigwydd. Fe es i o fod yn gwneud pob math o chwaraeon i wneud dim byd! Roedd hynny’n ofnadwy.

Dydw i erioed wedi difaru’r anaf hwnnw a gefais, mae wedi cau ambell i ddrws ond wedi agor cymaint o rai eraill. Cyn gynted ag y cefais fy ngorfodi i beidio cymryd rhan mewn chwaraeon a gorfod eistedd i lawr ac agor llyfr gwaith sylweddolais beth y gallwn ei wneud yn yr ysgol, ac mae hynny wedi bod yn werth chweil ar gyfer sut rwy’n byw fy mywyd nawr.

 

 

Pan oeddwn i’n 16 oed cefais y llawdriniaeth.

Doeddwn i ddim wedi cerdded yn hyderus hyd nes wedi mi gael y llawdriniaeth.

Y diwrnod wedi’r llawdriniaeth cefais wybod bod yn rhaid i mi gerdded. Roeddwn i’n meddwl, ydych chi o ddifrif .... mae hynny ychydig yn wirion!

Ond dyna’r ffordd orau i wneud pethau, y ffordd orau i wella ac roeddwn i’n fodlon gwneud unrhyw beth gan ei bod wedi bod yn ddwy flynedd.

Roeddwn yn dal ar faglau, ond yn gorfod cerdded a rhoi pwysau ar y goes.

Byddai’n brifo wrth gwrs, yn boenus am gyfnod byr o amser, ond wedi hynny byddai’n iawn.

Dechreuodd y corff wneud yr hyn sydd angen iddo ei wneud, gwella ac adfer ei hun.

Y canlyniad roeddwn i’n chwilio amdano oedd gallu rhedeg ar ddwy droed, efallai dim chwarae rygbi, ond ail-gydio mewn crefft ymladd o leiaf a chael pethau i weithio unwaith eto.

Rwy’n ddiolchgar dros ben i Dr Phil Thomas fy mod yn gallu gwneud y pethau rwy’n eu gwneud nawr, mae’n wir arwr.

Mae’n bwysig cael ffydd yn y bobl sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud.

Wedi’r llawdriniaeth, cefais wybod mai hyd oes clun newydd yw tua 15 mlynedd.

Felly, i mi, roedd yr holiaduron hyn yn rhywbeth y byddai’n rhaid i mi efallai eu llenwi’n flynyddol.

 

A byddwn i’n eu llenwi efallai bob blwyddyn a dechrau’n gymharol wael, yna gwella’n raddol, cyrraedd uchafbwynt ac yna dechrau dirywio eto.

Dyna oeddwn i’n ei feddwl. Ond dim ond dwywaith y gwnes lenwi holiadur.

Rydw i eisiau dal ati i’w llenwi. Rwy’n gobeithio eu bod yn mynd at Phil Thomas, yna gall gadw llygad arnaf. Pe bai’n derbyn rhywbeth yn flynyddol y gallai fwrw golwg arno a phe byddai’n gweld unrhyw rybuddion gallwn gael fy ngalw i mewn a chael prawf pelydr-X arall i weld os oes angen gwneud rhywbeth neu’i gilydd.

Byddai hyn yn monitro cynnydd dros gyfnod o 15 mlynedd, mwy o bosibl, yn dibynnu ar faint fydd fy nghlun yn para.

Dydw i ddim yn gwybod pam y gwnaethant roi’r gorau i’w defnyddio gan eu bod yn edrych fel offeryn defnyddiol i’w gael, yn arbennig pe byddai’r data’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio yn y modd yr oeddwn i’n meddwl y byddai’n cael ei ddefnyddio. Rwy’n gwybod y byddai pobl yn cysylltu pe byddent yn dechrau cael poen.

Fe fydda’i yn cael poen o bryd i’w gilydd, ond bydd hynny gan fy mod yn gwthio fy hun ormod weithiau.

Ond i eraill, a allai fod yn hŷn, neu a fydd efallai’n dechrau teimlo poen, byddai cael yr arolygon yn golygu y gellir cadw golwg arnynt.

Dydych chi ddim eisiau temtio anffawd, rydych yn gobeithio’r gorau, rydych yn ddiolchgar iawn am bopeth sydd wedi digwydd. Dydych chi ddim yn mynd i gwyno am fymryn lleiaf o boen pan eich bod yn gwybod sut deimlad yw bod ar faglau a chael llawer o boen bob dydd.

Dydw i ddim yn gwybod beth fydd y sefyllfa ymhen 10. A fyddaf yn cael fy ngalw i mewn am brawf pelydr-X neu rywbeth tebyg. Ai fy nghyfrifoldeb i yw cysylltu pan fo’r poen yn dechrau, rwy’n dychmygu hynny.

Sut fydda’i yn gwybod pan fyddaf mewn gwirionedd yn dechrau dod i sefyllfa pan fod angen llawdriniaeth arall arnaf. Gobeithio na fyddai’i angen llawdriniaeth arall a bydd fy nghlun yn para am byth.

Mae Dr. Phil Thomas am i mi lapio fy hun mewn ‘bubble wrap’ ac rwy’n credu bod y rhan fwyaf o lawfeddygon yn teimlo’r un fath. Maen nhw newydd eich trwsio chi a dydyn nhw ddim am i chi dorri eich hun eto. Maent yn meddwl, rwyt ti’n berffaith nawr ac rydw i’n falch iawn o fy ngwaith, felly paid â gwneud llanast o bethau.

Ond y peth yw, rydych chi eisiau ceisio gwthio’r ffiniau, heb wneud llanast o bethau, a theimlo eich bod yn y man lle roeddech yn arfer bod. I mi chwaraeon a chystadlaethau oedd hynny ac i eraill efallai mai mynd am dro hir neu nofio yw hynny.

Mae’n bosibl iddo wneud gwahaniaeth yn rhywun oherwydd eu bod yn gwybod, ac yn sylweddoli bod y person hwnnw yn poeni.

Mae’r proffesiwn meddygol am wneud yn siŵr eich bod yn iawn, maent yn poeni amdanoch fel person o ran yr hyn y gallwch ei wneud a’ch corff hefyd, mae hynny’n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael triniaeth o’r radd flaenaf. Pan fyddwch yn yr ysbyty ac wedi hynny.

Rwy’n credu y dylent barhau gyda’r ffurflenni a chael proses awtomataidd. Does dim rhaid i chi gael cysylltiad wedyn, dim ond llenwi’r holiadur. Rydych chi’n gwybod eich hun os ydych wedi’i lenwi er mwyn tynnu sylw at rywbeth.

Dylid cael graddfa rhwng un a deg, gyda deg yn gyfystyr â’r poen mwyaf ac un yn cyfateb i ddim poen. Os ydych yn rhoi naw neu ddeg rydych am dynnu sylw rhywun, a dyna ddylai ddigwydd. Rwy’n gobeithio byddant yn eu gwneud unwaith y flwyddyn, dim ond ar gyfer pobl sydd wedi cael llawdriniaethau’r glun, gan wybod ei fod yn gyfnod 15 mlynedd a rhyw ddiwrnod bydd angen un arall arnynt.

Os mai felly y bydd hi.