Oncolegydd Meddygol Academaidd
Canolfan Ganser Caeredin
Oncolegydd Meddygol Academaidd
Mae Dr Peter Hall yn Oncolegydd Meddygol Academaidd sydd â diddordeb ymchwil mewn Economeg Iechyd, Gwyddor Data ac Asesu Technoleg Iechyd mewn Canser. Mae’n trin cleifion gyda chanser y fron yn y GIG yng Nghanolfan Ganser Caeredin. Ffocws ei ymchwil yw datblygu dulliau gwell ar gyfer dylunio ymchwil effeithlon, dadansoddi cost-effeithiolrwydd a mesur canlyniadau clinigol ac economaidd-gymdeithasol drwy ddefnyddio data sy’n deillio o dreialon clinigol ac a gaiff eu casglu’n rheolaidd mewn systemau iechyd.