Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig llawn amser gyda’r GIG yw Mr Phill Thomas sy’n gweithio yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, ac yn arweinydd PROMS y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru.
Cymhwysodd o Ysbyty St Thomas yn Llundain ym 1990 cyn dychwelyd i Gymru i hyfforddi yn ei faes arbenigol. Gwnaeth gymrodoriaeth yn yr Ysbyty ar gyfer Plant Sâl yn Nhoronto a dechreuodd fel Meddyg Ymgynghorol yn 2001. Ei feysydd arbenigol yw trawma pediatrig a chyflyrau’r glun pediatrig/oedolion. Daeth Phil yn Gyfarwyddwr Clinigol y gwasanaeth Trawma ac Orthopedig am dair blynedd o 2013. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn meddygaeth chwaraeon ac mae wedi bod yn feddyg gyda thîm rygbi rhanbarth y Sgarlets am 10 mlynedd. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth meddygol wrth gefn ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Mae’n briod ac mae ganddo 3 o blant sy’n 22, 19 a 17 oed. Bydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser rhydd yn sefyll ar ochrau caeau chwarae gyda’i fag meddygol!