Ffocws Bwrdd Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – Rhoi'r claf wrth wraidd y gofal - enghraifft canser Tiwmor Niwroendocrin (NET) o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf
Dydd Mawrth 9 Tachwedd rhwng 12.00 – 12.45
Bydd Dr Mohid Khan, Ymgynghorydd Gastroenteroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Arweinydd Clinigol gwasanaeth NET De Cymru, yn disgrifio sut mae defnyddio mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs a PREMs) wedi helpu i drawsnewid y Gwasanaeth Arbenigol Tiwmor Niwroendocrin newydd trwy gyd-gynhyrchu. Bydd yn archwilio sut y daliwyd ati i ddefnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau cleifion wrth wraidd ei darpariaeth, o ddefnyddio PROMs mewn ymgynghoriad i ddefnyddio PROMs a PREMs a gesglir ar y cyd â setiau data eraill i lywio'r broses o ddarparu a chynllunio gwasanaethau.
Bydd y sesiwn yn darparu dealltwriaeth i ddefnyddwyr o'r heriau a'r buddion o fabwysiadu a defnyddio'r dull hwn sy’n canolbwyntio ar y claf.
Siaradwyr: Dr Mohid Khan
Hyd: 45 munudau