Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Iechyd Sy'n Seiliedig ar Werth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Iechyd Sy'n Seiliedig ar Werth
Mae Adele Cahill wedi bod yn uwch reolwr yn GIG Cymru ers dros 36 mlynedd. Bu’n weithiwr proffesiynol ym maes caffael yn rheoli’r timau caffael ar draws GIG Cymru am 30 mlynedd, ac mae wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf mewn ystod o rolau uwch reoli cyffredinol yn cefnogi trosiant a’r rhaglenni trawsnewid mawr ar draws amrywiol fyrddau iechyd Cymru.
Mae ei rolau wedi bod yn hanfodol wrth adolygu arferion ar draws ystod o wasanaethau, ac mae ganddi hanes o reoli newid a rheoli a gweithredu rhaglenni a phrosiectau yn llwyddiannus, a hynny drwy arweinyddiaeth strategol effeithiol.
Cyflwynwyd Adele i waith Gofal Iechyd Sy’n Seiliedig ar Werth yn 2015 gan yr Athro Alan Brace, sef Cyfarwyddwr Cyllid Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; pan ymunodd â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddarparu cyfeiriad y rhaglen strategol wrth osod ac arwain y rhaglen Gofal Iechyd Sy’n Seiliedig ar Werth. Bellach, mae Adele ynghlwm wrth y gwaith o ddarparu mewnwelediad a gwybodaeth strategol i gefnogi’r Rhaglen Gofal Iechyd Darbodus ac Sy’n Seiliedig ar Werth Genedlaethol.
Mae ei rolau a’i diddordebau cyfredol yn cynnwys: Arweinydd Rheoli a Gweithredu ar gyfer partneriaeth strategol a mesur canlyniadau Y Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Mesur Canlyniadau Iechyd (ICHOM), aelod o’r Asiantaeth Cyflenwadau Gofal Iechyd (HCSA) a Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS), Gofal Iechyd Sy’n Seiliedig ar Werth a Chaffael Am Werth.