Cyfarwyddwr Cynorthwyol Caffael
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Caffael
Mae Andy wedi gweithio ym maes rheoli caffael yn y GIG ers dros 20 mlynedd, ac mae ei ffocws yn bennaf ym maes dyfeisiau meddygol. Wedi i Andy gyflawni rolau cenedlaethol yn NHS England gyda NHS PASA a NHS Supply Chain, mae wedi treulio’r 10 mlynedd diwethaf yng Nghymru, ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Yn ymarferydd ac yn gredwr cryf mewn caffael seiliedig ar dystiolaeth, Andy yw sylfaenydd y Panel Gwerthuso Data Orthopaedig (ODEP) ac mae’n aelod cyfetholedig o Bwyllgor Llywio Cofrestrfa Genedlaethol y Cymalau (NJRSC).
Yn PCGC, mae Andy yn arwain ar y gwaith o gyflwyno Scan4Safety ar gyfer GIG Cymru i gefnogi agenda Gofal Iechyd Darbodus ac Sy’n Seiliedig ar Werth GIG Cymru.