Pennaeth Trawsnewid Digidol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Pennaeth Trawsnewid Digidol
Ymunodd Angela Parratt â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel Cyfarwyddwr Trawsnewid Digidol ym mis Mawrth 2020, wythnos gwta cyn y cyfnod clo cyntaf - am gyfnod sefydlu!
Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio’n bennaf yn y GIG a Llywodraeth Leol, yn ogystal â rhai blynyddoedd fel cyflogai ac Ymgynghorydd ym maes Bywyd a Phensiynau a’r sector preifat ar raglenni lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang sy’n defnyddio digidol i alluogi trawsnewid gwasanaethau a busnes.
Ei hangerdd yw gwneud i’r gwaith weithio’n well, wedi’i alluogi gan feddwl yn ddigidol a chyd-gynhyrchu datrysiadau sy’n datrys problemau fel y gallwn gyflawni gwell canlyniadau i bobl gyda’n gilydd.