Uwch Reolwr Prosiect (Adnodd Data Cenedlaethol)
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Uwch Reolwr Prosiect (Adnodd Data Cenedlaethol)
Mae Chris yn arwain trawsnewid digidol. Dechreuodd ei yrfa ym maes peirianneg electronig gyda Sony ym Mhencoed. Ar ôl symud o Gymru i Lundain am 10 mlynedd, arweiniodd Chris fanwerthwyr technoleg ac yna symudodd i faes bancio gan ddefnyddio data i wneud yr elw mwyaf posibl.
Wedi iddo ddychwelyd i arfordir hardd Cymru i fagu teulu, penderfynodd Chris newid cyfeiriad o elw corfforaethol i ddefnyddio’r sgiliau trawsnewid hynny i ysgogi budd i’r cyhoedd. Yn dilyn rolau yn y sector cyhoeddus ac mewn prifysgolion yng Nghymru aeth ymlaen at y GIG lle mae Chris yn cefnogi’r Adnodd Data Cenedlaethol i Gymru.