Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol ac Arweinydd Clinigol y rhaglen Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol ac Arweinydd Clinigol y rhaglen Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw
Graddiodd Chris o Brifysgol Caerdydd yn 2001 gyda gradd mewn Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff. Dychwelodd i astudio Ffisiotherapi a graddiodd yn 2006. I ddechrau gweithiodd gyda BIP Caerdydd a’r Fro a daeth yn arbenigwr mewn Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol (MSK) yn 2009. Y tu hwnt i’w waith GIG, mae Chris wedi gweithio ym maes chwaraeon elît fel Ffisiotherapydd, gan weithio yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, gyda thîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2014 ac yn y Gemau Ewropeaidd Cyntaf yn Baku 2015.
Yn 2014 symudodd Chris i BIP Bae Abertawe i dderbyn rôl Ymarfer Uwch Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol. Cymerodd Chris ran mewn gwaith rheoli anfeddygol Osteoarthritis y Ben-glin (OA) yn 2016. Sefydlodd gynllun peilot bach a elwir yn rhaglen Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw (ELP). Trawsnewidiwyd ELP yn wasanaeth digidol cyn ei agor ym mis Ebrill 2021. Mae Chris yn parhau i weithio fel Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol ac ar hyn o bryd mae’n arweinydd clinigol y rhaglen Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw hefyd. Rhan o’i rôl bresennol yw ymchwil yn seiliedig ar waith clinigol i effaith ymyriadau ffordd o fyw ar gleifion gydag osteoarthritis y ben-glin.
Yn ei amser hamdden, mae Chris yn mwynhau rhedeg. Mae ganddo ddiddordeb arbenigol mewn atal a rheoli anafiadau rhedeg.