Pennaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Pennaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Dee yw Pennaeth newydd Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac mae’n arwain ar alluogi gweledigaeth i ddarparu Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth, gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion a defnyddio’n hadnoddau’n effeithiol.
Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y GIG, Llywodraeth Cymru a Heddlu’r DU, yn datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni arloesi a gwelliant. Mae’n frwd am iechyd y boblogaeth, gwella bywydau a chanlyniadau dinasyddion a chydweithio â chydweithwyr, diwydiant a chleifion i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallwn sy’n canolbwyntio ar y claf.