Cyfarwyddwr Clinigol, Rhwydwaith Trawma De Cymru, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys, Ysbyty Treforys, Abertawe ,Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys Cyn mynd i'r Ysbyty, Y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru, Cymrawd y Sefydliad Iechyd
GIG Cymru

Mae gan Dr Gill brofiad helaeth o feddyginiaeth adfer a systemau trawma yn y DU ac yn rhyngwladol. Ef oedd cyd-sylfaenydd EMRTS Cymru, a aeth yn fyw ar 27 Ebrill 2015. Mae'r EMRTS yn wasanaeth Cymru Gyfan sy'n darparu gofal critigol cyn mynd i’r ysbyty i bob grŵp oedran, trosglwyddo oedolion a phlant ar frys rhwng ysbytai, trosglwyddo mamau a babanod o'r cartref neu mewn unedau dan arweiniad bydwraig ac ymateb i ddigwyddiadau mawr. Ef oedd Cyfarwyddwr Cenedlaethol y gwasanaeth tan fis Mai 2017.
Dr Gill yw Cyfarwyddwr Clinigol Rhwydwaith Trawma De Cymru ac fe arweiniodd ddatblygiad y model gwasanaeth clinigol a gweithredol, a’r gofynion adnoddau a’r sicrwydd wrth baratoi ar gyfer mynd yn fyw ym mis Medi 2020. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn llywodraethu clinigol/ gweithredol y gwasanaethau brys ac adfer a'r berthynas â rhwydweithiau trawma mawr a llif cleifion ar draws y system.
Yn ddiweddar, mae Dr Gill wedi ymgymryd â chymhwyster uwch mewn gwella ansawdd ac arweinyddiaeth fel Cymrawd Sefydliad Iechyd (fel rhan o'r rhaglen GenerationQ sy'n cael ei chynnal gan Ysgol Fusnes Ashridge).