Pennaeth Caffael
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Pennaeth Caffael
Esther yw Pennaeth Caffael Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy’n rhan o wasanaethau caffael ehangach Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Ymunodd Esther â’r GIG yn 2006 wedi 22 mlynedd yn y sector manwerthu masnachol. Dechreuodd angerdd Esther am ofal iechyd sy’n seiliedig ar werth o ddifrif ddwy flynedd yn ôl yn dilyn diagnosis ei merch o gardiomyopathi arrhythmogenig fentrigl dde (ARVC) ac ar hyn o bryd mae’n gweithio’n agos gyda Chardiolegwyr a Phennaeth Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth fel rhan o lwybr methiant y galon i ychwanegu gwerth a gwella canlyniadau i gleifion.
Ar ôl misoedd o ganfod wrth weithio yn ystod Covid, mae’r cyfle i weithio gyda Diwydiant, Hwb Gwyddorau Bywyd a’r Bwrdd Iechyd bellach yn dwyn ffrwyth wrth i brosiect NTproBNP ddechrau, gan herio pob un ohonom i feddwl yn wahanol fel y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cleifion yn ein cymuned.