Rheolwr Prosiect, Caffael Am Werth
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Rheolwr Prosiect, Caffael Am Werth
Ar hyn o bryd, mae James yn cydlynu’r gwaith o weithredu system rheoli eiddo Scan4Safety Cymru gyfan. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn gofal iechyd a chaffael am werth a sut y gall Scan4Safety wella diogelwch cleifion a hwyluso gwneud penderfyniadau caffael am werth.
Cyn ymuno â’r GIG, mae James wedi gweithio ym maes caffael a’r gadwyn gyflenwi ers dros 20 mlynedd. Dechreuodd ei yrfa cadwyn gyflenwi gynnar drwy gyflenwi a chynhyrchu gorchuddion meddygol a thapiau gludiog. Yna, symudodd James i’r sector nwyddau traul (cynnyrch cosmetig) prysur, lle datblygodd ei yrfa gyda chyfleoedd ledled Lloegr, Cymru a Ffrainc.
Mae ei brofiad hyd heddiw yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau sydd ynghlwm wrth weithredu Scan4Safety ar draws GIG Cymru.