Arweinydd Prosiect Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Arweinydd Prosiect Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Ymunodd Jonathan â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan lle y treuliodd ei yrfa glinigol fel ffisiotherapydd ac arweinydd tîm cleifion allanol cyhyrysgerbydol. Arweiniodd angerdd dros iechyd y boblogaeth a gwneud penderfyniadau ar y cyd Jonathan i nifer o brosiectau gwella ansawdd oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth a gwybodaeth ynghylch hybu iechyd a newid ymddygiad o fewn y gymuned gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mae Jonathan yn arweinydd prosiect ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, lle mae’n gweithio’n agos â’r gymuned gwyddorau bywyd rhyngwladol ac ecosystem Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth Cymru i gefnogi a galluogi dulliau gwerth yng Nghymru a fydd yn ysbrydoli ac yn llywio arloesedd ym maes iechyd a gofal.