Rheolwr Ymchwil
Doeth am Iechyd Cymru
Rheolwr Ymchwil
Pauline Ashfield-Watt yw Rheolwr Ymchwil Doeth am Iechyd Cymru, arolwg iechyd ar-lein pobl Cymru a chofrestr o gyfranogwyr sy’n barod i gymryd rhan mewn ymchwil. Nod Doeth am Iechyd Cymru yw ymgysylltu’r cyhoedd ag iechyd a hwyluso gwaith ymchwil i amrywiaeth eang o benderfynyddion cymdeithasol, amgylcheddol a biolegol iechyd a lles ar hyd llwybr bywyd.
Mae Pauline wedi gwneud gwaith ymchwil ar atal sylfaenol clefyd cronig mewn amrywiaeth o leoliadau ac mae ganddi ddiddordeb mewn trosi canfyddiadau ymchwil yn effeithiol er budd y cyhoedd.