Pennaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Pennaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Mae Simon yn Bennaeth Gofal Iechyd wy’n Seiliedig ar Werth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cyn hynny, bu’n gweithio fel Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ar gyfer Gofal heb ei Drefnu yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, ac roedd ganddo gyfrifoldeb ar draws y Bwrdd Iechyd ar gyfer Gwasanaethau Strôc a Gofal Henoed.
Cyn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bu’n Bennaeth Rhaglenni Gwybodeg Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, fel Dirprwy Reolwr Cyffredinol Ysbyty Tywysoges Cymru a Rheolwr y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Cyfarwyddiaeth Patholeg Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Cyn gweithio i’r GIG, bu Simon yn gweithio yn y sector preifat fel ymgynghorydd technoleg a chyfathrebu, yn ogystal ag yn rheolwr datblygu busnes ym maes diogelwch gwybodaeth. Yn ogystal, bu’n gweithio’n helaeth yn Rheolwr Prosiect a Rheolwr Sicrwydd i nifer o Integreiddwyr Systemau TG.