Cyfarwyddwr Rhaglen DSPP
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Cyfarwyddwr Rhaglen DSPP
Mae Stephen Frith wedi gweithio ym maes Gwybodeg y GIG ers dros 30 mlynedd. Yn dilyn gyrfa a ddechreuodd yn y GIG a diweddu gydag arwain yr adran gwybodeg yn Ysbyty Oxford Radcliffe, treuliodd Stephen rywfaint o amser yn gweithio gyda chwmni’n sefydlu platfformau negeseuon GIG yn seiliedig ar XML cyn symud i Awdurdod Gwybodaeth y GIG. Ar ôl hynny, mae Stephen wedi gweithio gyda nifer o raglenni TG mawr iawn y llywodraeth, yn cynnwys bod yn arweinydd masnachol i negodi rhwydwaith y GIG, N3 a phlatfform cyd-rwydweithio Cymru gyfan, PSBA.
Mae ei brofiad yn cynnwys gweithio ar raglenni cofnod unigol yng Nghymru a Lloegr, datblygu cynllun peilot ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein (MHOL), cynllunio a darparu rhaglenni trosi TG cymhleth a darparu rhaglenni seilwaith mawr iawn yn y sector cyhoeddus.
Mae prif ddiddordebau Stephen ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar helpu’r sector cyhoeddus i ddod yn drefnus ac yn gleient hynod ddeallus, gan ail-osod y cydbwysedd gyda’r sector masnachol. Caiff hyn ei lywio gan gred gadarn fod trefniadau masnachol â strwythur da yn darparu manteision real i bartneriaid masnachol a’r sector cyhoeddus yn ehangach. Mae cydweithio a meddwl yn gydgysylltiedig yn y sector cyhoeddus yn allweddol i greu rhaglenni lle gall diwydiant arloesi i ddod â gwerth cyflym a lle gall y sector cyhoeddus gyflawni gwir werth ar gyfer pwrs y wlad. Am y rheswm hwn, gwelwch fod Stephen bob amser yn barod i siarad am ymgysylltu’n gynhwysol â rhan-ddeiliaid a llywodraethu rhaglenni yn gadarn ac yn gynrychiadol.
Ar hyn o bryd, mae Stephen yn gweithio fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y rhaglen DSPP Cymru gan roi’r cyfle a’r cyfrifoldeb iddo ddefnyddio dros ugain mlynedd o baratoi manwl yn ymarferol mewn maes sydd o ddiddordeb mawr yn bersonol iddo. Yn y swydd hon, mae’r angen i gydbwyso’r arloesedd a’r cynnydd y gellir ei ryddhau gyda data iechyd agored ar un llaw, a’r anghenion yr un mor sylfaenol o gywirdeb data a diogelu data personol i unigolion ar y llaw arall yn diffinio’r ffin ar gyfer gwneud cynnydd.
Mae Stephen yn byw gyda’i bartner yng Ngorllewin Cymru lle nad yw teulu gyda thri o feibion a phrosiect gwaith llaw sydd allan o reolaeth i adnewyddu ffermdy yn Sir Benfro yn rhoi llawer o amser iddo fwynhau ei ddiddordebau eraill o hwylio a cheir clasurol. Er gwaethaf hyn, mae’n llwyddo neilltuo amser i ddilyn cwrs y dyfeisiodd ei hun i astudio popeth sy’n gysylltiedig â gwin, cwrs sy’n seiliedig yn bennaf ar ymchwil empirig.