Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru
Llywodraeth Cymru
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru
Mae'r Athro Chris Jones yn Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, ar ôl ymuno â Llywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru ym mis Mehefin 2010. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n feddyg ac yn gardiolegydd ar gofrestr arbenigol GMC ar gyfer Meddygaeth Gyffredinol a Cardioleg ac yn Gymrawd Coleg Brenhinol Meddygon Llundain
Mae Chris hefyd yn arweinydd Arbenigol ar gyfer Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru ac yn Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.
Cymhwysodd Chris mewn meddygaeth yn Llundain ym 1981 ac ymgymerodd â hyfforddiant clinigol ac ymchwil yn Llundain, Caerdydd ac UDA. Fe'i penodwyd fel y Cardiolegydd Ymgynghorol cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1994 ac aeth ymlaen i arwain datblygiad gwasanaeth cardioleg glinigol sy'n perfformio'n dda dros y 15 mlynedd nesaf. Yn ystod yr amser hwn treuliodd 4 blynedd hefyd fel Uwch Ddarlithydd mewn Cardioleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi cyhoeddi dros 80 o bapurau adolygu cymheiriaid gwreiddiol.
Dechreuodd gyrfa Chris mewn rheolaeth feddygol yn 2003 pan ddaeth yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Wedi hynny bu’n gweithio yno fel Cyfarwyddwr Meddygaeth Glinigol ac yna Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Ymddiriedolaeth Prifysgol ABM cyn symud i Gaerdydd.
Fel DCMO a Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Gofal Iechyd y Boblogaeth, mae Chris yn cefnogi gwaith i wella iechyd a lles y boblogaeth a datblygu gwasanaethau gofal iechyd sy'n darparu gwerth uchel i gleifion o ran canlyniad a phrofiad.