Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro. Hamish Laing

Cyfarwyddwr, Yr Academi Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth. Athro Arloesi, Ymgysylltu a Chanlyniadau Gwell

Yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe

www.swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/academi-igsw/

Amdanaf i

Cyfarwyddwr, Yr Academi Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth. Athro Arloesi, Ymgysylltu a Chanlyniadau Gwell

Ar ôl gyrfa fel llawfeddyg plastig adluniol a dal llawer o swyddi arwain y GIG, roedd Hamish yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ac yn Brif Swyddog Gwybodaeth Bwrdd Iechyd integredig mawr y GIG yng Nghymru. Sefydlodd raglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth (VHBC) ac arweiniodd ar ran y GIG ym Margen lwyddiannus Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. 

Wedi’i benodi yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe yn 2018, mae Hamish yn Gyfarwyddwr yr Academi Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ac mae’n ymchwilio i gymhwyso VHBC yn y rhyngwyneb rhwng systemau iechyd a’r sector gwyddor bywyd.  Mae’r Academi Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn darparu rhaglenni addysg ar lefel gradd Meistr yn ogystal ag ymchwil ac ymgynghori. Mae Hamish yn cynrychioli Cymru ar Felin Drafod VBHC yn Ffederasiwn Diwydiannau a Chymdeithasau Fferyllol Ewrop ac yn rhoi cyngor i gwmnïau fferyllol a thechnoleg feddygol byd-eang ar VBHC.