Crynodeb:
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut y gall egwyddorion Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth gefnogi ail-ddylunio gwasanaethau ac arfogi gwasanaethau i ddarparu gofal iechyd darbodus. Bydd y sesiwn yn darparu trosolwg o'r materion galw a gallu yn ein hadran wroleg ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a'u anhawster i gyrraedd targed RTT wrth ganolbwyntio'n benodol ar ofal cleifion. Bydd y sesiwn yn eich tywys trwy'r modd y gwnaeth gweithredu casglu canlyniadau a gwybodaeth arall a adroddwyd gan gleifion alluogi'r gwasanaeth a'i glinigwyr i feddwl yn wahanol ar sut y maent yn rheoli galw a gallu, yr heriau wrth gyflawni hyn, y buddion a hefyd y gwersi a ddysgwyd (nid yw technoleg yn. dyna'r ateb bob amser).
Siaradwyr:
Bonita Overland, Rheolwr Cyfarwyddiaeth Gynorthwyol Wroleg, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
David Minton, Arweinydd Clinigol NCN, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan