Crynodeb:
Bydd cynrychiolwyr yn clywed am y gwaith sydd ar y gweill yng Nghymru i safoni data mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) yn genedlaethol i sicrhau cysondeb yn y casgliad a chaniatáu i ddata lifo ar draws ffiniau sefydliadol. Bydd y data hwn yn bwydo nifer o offer a ddatblygwyd yn genedlaethol, gan gefnogi gofal cleifion a gwella gwasanaethau. Bydd y grŵp yn disgrifio'r rhesymau pam mae safoni yn allweddol i gefnogi'r defnydd o PROMs mewn ymarfer clinigol a hefyd y camau sy'n ofynnol i gyflawni hyn yng nghyd-destun GIG Cymru. Rhoddir sylw arbennig i eitemau data sy'n caniatáu cysylltu data, yn hydredol, ar draws arbenigeddau, ac ar draws ffiniau sefydliadol. Trafodir heriau a chyfleoedd yn ogystal â chynnydd hyd yma.
Siaradwyr:
Gareth Griffiths, Rheolwr Safonau Data, NWIS
Sarah Puntoni, Rheolwr Rhaglen, Gwerth mewn Iechyd
Sally Cox, Prif Arbenigwr (Gwybodaeth), Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru