Yng Nghymru, mae gofal sy'n seiliedig ar werth yn cael ei ategu gan Ofal Iechyd Darbodus, a lansiwyd gyntaf fel athroniaeth a pholisi ym mis Ionawr 2014. Mae ei egwyddorion allweddol o gyd-gynhyrchu, tegwch, ymyrryd yn ysgafn yn effeithiol (a chymaint ag y mae angen i ni ei wneud yn unig) a lleihau amrywiadau diangen (gan gynnwys tan a gor-driniaeth) i gyd yn allweddol i sicrhau gwerth i'n cleifion a'n dinasyddion ar draws system gyfan o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Gofal Iechyd Darbodus wedi darparu sylfaen gref ar gyfer gwella gofal iechyd yng Nghymru a bydd dull gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn helpu i wireddu nodau Gofal Iechyd Darbodus.
Yn 'Cymru Iachach', amlinellodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n nodi'r angen i wasanaethau iechyd newid a dod yn addas i ymateb i'r heriau y mae poblogaeth sy'n heneiddio yn eu cyflwyno a sut y gallwn i gyd helpu i sicrhau gwell canlyniadau iechyd i ni ein hunain ac i eraill. Un elfen allweddol yn y cynllun hwn oedd gwella gwerth i gleifion drwy roi mwy o ffocws i'r canlyniadau sy'n bwysig i unigolion, ac ystyried eu perthynas â chostau cyflawni'r canlyniadau hynny.
Mae Michael Porter ac Elizabeth Teisberg yn disgrifio gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth fel y canlyniadau a gyflawnir sy'n bwysig i gleifion o'u cymharu â chostau cyflawni'r canlyniadau hynny. Mae'r gwerth i'r claf yn ymwneud â'r cylch gofal cyfan, nid un ymyriad yn unig. Yn aml mewn gofal iechyd, nid ydym yn ystyried nac yn casglu'r canlyniadau sy'n bwysig i gleifion ac felly mae gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn ein hannog i ganolbwyntio ar fesurau canlyniadau a gofnodir gan gleifion (PROMs) yn ogystal â chanlyniadau clinigol.
Lansiwyd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yng Nghymru yn ystod hydref 2019, yn nodi rhaglen tair blynedd i ymgorffori'r dull gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth fel rhan o wireddu athroniaeth Gofal Iechyd Darbodus. Gan adeiladu ar yr ymgorfforiad cychwynnol hwnnw, cyhoeddodd y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, sydd newydd ei chreu, strategaeth wedi'i diweddaru ym mis Tachwedd 2021.
Byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith o weithredu a datblygu canlyniadau a mesur a dadansoddi costau, gan ddefnyddio dull cydweithredol o rannu a defnyddio data i gefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau gofal iechyd a gwerth i gleifion. Bydd hyn yn cynnwys mesur costau gofal iechyd ar lefel system a gwneud y rheiny'n weladwy i dimau clinigol, gan ganiatáu iddynt fod yn stiwardiaid adnoddau drwy ddylanwadu ar ofal gwerth uchel i'r poblogaethau y maent yn gofalu amdanynt.
Mae sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru wedi ymrwymo i ddatblygu eu dulliau gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth. Mae hyn yn cynnwys casglu ac adrodd yn well ar ddata canlyniadau ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau meddygol, ac edrych ar amrywiadau diangen mewn gwasanaethau a chanlyniadau i ddatgelu tanddefnydd a gorddefnydd gwahanol agweddau ar ofal iechyd.