Ein cenhadaeth yw darparu arweinyddiaeth, cymorth, arbenigedd a chyfeiriad strategol ar draws GIG Cymru sy’n ysgogi canlyniadau gwell i gleifion mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn yr hirdymor. Mae datblygu cynhyrchion data yn rhan hanfodol o sut rydym yn cyflawni hynny.
O ddangosfyrddau, atlasau amrywiad, canllawiau llwybr a modelau gweithredu, rydym wedi sefydlu nifer o gynhyrchion sy’n cael eu defnyddio ar draws GIG Cymru i gefnogi’r gwaith o ddarparu dull gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth.
Yn dibynnu ar bwy ydych chi a beth yw eich rôl, efallai y bydd rhai cynhyrchion yn gyfyngedig. Os nad ydych yn gallu cyrchu unrhyw un o’n tudalennau cynnyrch, cysylltwch â ni Cysylltu â Ni a bydd un o’r tîm yn asesu eich cais.