Cesglir symiau helaeth o ddata gan sefydliadau ar draws GIG Cymru. Cesglir data yn ymwneud â chleifion, ond hefyd gweinyddiaeth a gweithrediad y system gofal iechyd yng Nghymru ar raddfa fawr. O ystyried natur y data hyn, mae systemau cadarn ar waith i'w rheoli'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Fodd bynnag, dylid rhannu'r data hyn a’u ddefnyddio'n briodol er budd cleifion, gwasanaethau a systemau.
Mae cael data sy’n hygyrch yn helpu’r Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru a’n partneriaid allweddol i’w defnyddio mewn nifer o ffyrdd i alluogi atal clefydau, lleihau amrywiadau diangen, gwella canlyniadau i gleifion, lleihau costau a sbarduno effeithlonrwydd.
Drwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, a Llywodraeth Cymru, mae ein mynediad i ddata wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi ein galluogi i greu llawer o gynhyrchion sy'n galluogi timau clinigol i wneud gwell penderfyniadau am gynllunio a darparu gofal iechyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r holl randdeiliaid perthnasol i sicrhau bod gennym y data cywir i ddatgelu mewnwelediadau gwirioneddol.