Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Gwerth mewn Iechyd:
https://gisw.gig.cymru/
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y tîm cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd. Rydyn
ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn
golygu y dylech chi fod yn gallu gwneud y canlynol:
Rydyn ni wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosib i’w ddeall hefyd. Mae
AbilityNet yn rhoi cyngor ar sut i’w gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio eich dyfais os
oes anabledd gyda chi.
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF
hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â
ViH@wales.nhs.uk a byddwn ni’n trosglwyddo'ch cais i'r tîm perthnasol. Byddwn ni’n
ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd yn eich barn chi, cysylltwch â ViH@wales.nhs.uk
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi
Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (gwefannau a chymwysiadau
symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os na fyddwch chi’n fodlon ar y
ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth
Cydraddoldeb (EASS).
Mae’r tîm cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn
hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a
Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd
Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Er y byddwn ni’n blaenoriaethu gwybodaeth cleifion i sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydyn ni’n gwybod bod rhai adrannau o’n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydyn nhw’n hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018. Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn ni’n nodi lle rydyn ni’n gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn ni’n sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried. Ar hyn o bryd, mae'r adrannau hyn wedi'u rhestru isod: (ac yn destun newid).
· Adroddiadau a all gynnwys deunydd adrodd/data ystadegol cymhleth
· Polisïau a gweithdrefnau sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018
· Cyhoeddiadau sydd wedi'u cysylltu o'n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys logiau datgelu
· Cyhoeddiadau a all fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid i drydydd parti eu trwsio.
· Nid yw hi bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol
heb ei gwneud hi'n anoddach gweld y cynnwys.
· Nid yw hi’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys
orgyffwrdd.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er
enghraifft, o bryd i'w gilydd mae gennym ni ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth
am sut y gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i
gleifion a ffurflenni sy’n cael eu cyhoeddi fel dogfennau Word. Erbyn mis Gorffennaf
2023, rydyn ni’n bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau’r Bwrdd a Phwyllgorau, dogfennau polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn ni’n ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd. Fideo byw Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn ni bob amser yn ceisio darparu fersiynau wedi'u hisdeitlo o fideos a recordiwyd ymlaen llaw.
Erbyn mis Gorffennaf 2023, rydyn ni’n bwriadu newid y canlynol er mwyn cydymffurfio’n
llawn â safonau WCAG 2.1 AA:
· Newid lliwiau er mwyn sicrhau bod gan bob testun a chefndir y lefel ofynnol o
gyferbyniad
· Sicrhau bod gan bob elfen drefn ffocws rhesymegol a threfn tabiau
· Ychwanegu testun amgen i bob delwedd
· Adolygu a throsi dogfennau PDF a dogfennau Word i HTML lle y bo'n briodol
· Sicrhau bod yr holl elfennau rhyngweithiol ar gael i ddefnyddwyr technolegau
cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Gorffennaf 2022. Bydd yn cael ei adolygu ym mis
Gorffennaf 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2022. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol
gan y tîm cenedlaethol Gwerth mewn Iechyd.