Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005, yn adlewyrchu
newid mewn polisi cenedlaethol ym maes gweinyddiaeth gyhoeddus, a hynny o fod yn
ddiwylliant o gyfrinachedd i fod yn ddiwylliant agored ac atebol.
Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyffredinol i chi, y cyhoedd, gael gafael ar wybodaeth sy’n
cael ei chadw gan unrhyw awdurdod cyhoeddus, fel Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru,
yn amodol ar ambell esemptiad cyfyngedig. I weld y Ddeddf, ewch i ‘Deddf Rhyddid
Gwybodaeth 2000’.
Os hoffech chi wneud cais am wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol: