Mae ymwelwyr â Gwerth mewn Iechyd (y wefan hon) yn cael caniatâd i gyrchu
deunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Trwy ddefnyddio’r
wefan, rydych chi’n cytuno i ddilyn y telerau defnydd hyn.
Er y caiff ymwelwyr gyrchu cynnwys, ei lawrlwytho a’i ddefnyddio at ddibenion personol
ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, wrth astudio neu wneud defnydd ohono’n fewnol),
ni ddylai ymwelwyr atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd oddi ar y wefan
hon heb ganiatâd perchennog y wefan/perchennog yr hawlfraint.
Ni, neu drydydd partïon, sydd yn berchen ar y delweddau, y logos a’r darluniau ar y
wefan hon. Ni ddylid eu defnyddio heb gael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint.
Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy'n ymwneud â'r wefan hon
yn perthyn i add in your Organisation name a lle bo hynny'n berthnasol, gymdeithion
trydydd parti.
Pan fyddwch chi’n darparu data sy’n datgelu pwy ydych chi ar y wefan hon yn wirfoddol
(gan gynnwys ffurflenni adborth, holiaduron ac ati), fydd yr wybodaeth hon ond yn cael
ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben arfaethedig. Nid ydym yn rhannu
gwybodaeth defnyddwyr y wefan gyda thrydydd partïon.
Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wirio nad oes unrhyw feirysau yn ein deunyddiau.
Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn rhedeg rhaglen wrthfeirws ar unrhyw
ddeunydd y byddwch chi’n ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb
am unrhyw achosion o golli data, colli mynediad i’ch data neu ddifrod i’ch data neu i’ch
system cyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o’r wefan hon.
Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, mae
cynnwys yn cael ei ddarparu er gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac wrth ei ddefnyddio
fe fyddwch chi’n derbyn y risg sydd ynghlwm wrth wneud hynny. Ni fyddwn yn atebol
am unrhyw ddifrod na cholled yn sgil gweithred neu anwaith a wneir yn dilyn defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon.
Nid yw Ganolfan Gwerth mewn Iechyd yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw
wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r
cynnwys ar y gwefannau hynny, nac am unrhyw ganlyniadau a ddaw yn sgil dilyn
unrhyw gyngor ar y gwefannau hynny. Ni ddylid camgymryd rhestri am gymeradwyaeth
o unrhyw fath.
Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser, ac nid oes unrhyw
reolaeth gennym dros argaeledd y tudalennau y mae dolenni iddynt, na thros unrhyw
newidiadau i’r tudalennau hynny.
Ganolfan Gwerth mewn Iechyd yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw
wefan.
Mae gwefannau GIG Cymru, lle mae’r nodwedd Google Translate wedi'i galluogi, yn
cynnig cyfieithiadau gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG
Cymru unrhyw reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi'u cyfieithu yn rhan o'r wefan
dan sylw, ac nid oes cysylltiad rhyngddynt â pharth GIG Cymru ychwaith.
Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad cyfrifiadurol awtomataidd ac, o'r herwydd, ni fydd
yn gyfieithiad perffaith a bydd yn dueddol o gynnwys camgymeriadau na fyddai
siaradwr dynol yn eu gwneud fel arall.
Dylid defnyddio'r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Nid yw GIG Cymru yn derbyn
atebolrwydd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac am unrhyw golled a geir o'u
herwydd.
Bydd diwygiadau i’r telerau hyn yn y dyfodol ar gael i’w gweld ar y wefan hon.