Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19

Mae’r ddelwedd yn dangos menyw yn gwisgo masg mewn ymateb i COVID-19.

Barn Meddyg Teulu mewn cyfnod o argyfwng                             

Persbectif Gofal Sylfaenol ynglŷn â sut beth yw Gofal Seiliedig ar Werth yn ystod pandemig COVID.

Mae Gofal Sylfaenol yng Nghymru wedi ymateb i’r her o ddarparu gwerth mewn iechyd yn ystod pandemig byd-eang, ond mae rhagor i’w wneud.

Brysbennu cyflawn:

Bron dros nos ym mis Mawrth 2020 mabwysiadodd dimau Gofal Sylfaenol system frysbennu clinigol gyflawn, yn bennaf i sicrhau bod apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnig dim ond pan fo’r gymhareb o ran risg a budd ymgynghoriad o’r fath yn cyfiawnhau’r dull hwnnw. Ar gyfer brysbennu dros y ffôn, roedd cyfeirio cychwynnol gan weithwyr derbynfa yn galluogi gwneuthurwyr penderfyniadau clinigol medrus i ganolbwyntio eu sylw ar gleifion oedd â’r angen mwyaf am farn feddygol, yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus. Beth am ganlyniadau’r symud hwn tuag at frysbennu cyflawn? Mae tystiolaeth cyn COVID yn awgrymu y gellid rheoli hyd at 50% o ymgynghoriadau meddygon teulu yn ddiogel o bell (Cyf 1: BMJ 2017; 358:j4345), felly byddai astudiaethau tebyg yn ymwneud â mesurau clinigol a mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMS) yn ddelfrydol i benderfynu a yw hyn hefyd yn gymwys yn ystod pandemig COVID.

Arloesedd mewn TGCh:

Cafwyd cynnydd cyflym mewn cysylltedd digidol, gan alluogi staff Gofal Sylfaenol i weithio o bell yn eu cartrefi, gan gysylltu meddalwedd clinigol rhwng practisau yn yr un clystyrau, a nifer o blatfformau cyfarfod rhithwir, y cyfan ohonynt yn cyfrannu ar gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar adeg pan allai salwch staff fod wedi crebachu nifer gweithlu’r GIG oedd ar gael.

Mae arferion gweithio hyblyg o’r fath yn rhoi gwerth i unigolion a’u teuluoedd, o ran llesiant staff; ar gyfer timau Gofal Sylfaenol a chleifion, drwy gynyddu cynhyrchiant y gweithlu; a hefyd ar gyfer yr amgylchedd, gan fod milltiroedd cymudo i’r gwaith yn crebachu'n gymesur.

Roedd mentrau arloesol ar gyfer cleifion yn cynnwys meddalwedd ymgynghoriadau fideo, a gyflwynwyd yn gyflym gyda fawr ddim cyfle ar gyfer gwerthuso’r dull i gyfateb i gyflymder ei fabwysiadu. Mae sawl sôn am feddygon teulu’n troi’n ôl at ymgynghoriadau dros y ffôn, gan iddynt deimlo bod ymgynghori drwy fideo yn cymryd mwy o amser, neu’n fwy technegol heriol, neu’n llai defnyddiol nag yr oeddent yn disgwyl iddo fod. Mae canllawiau nawr ar gael ynglŷn â beth yw arfer da ar gyfer ymgynghori drwy fideo, (Cyf 2: BMJ 2020; 368:m998), ond mae disgwyl am dystiolaeth ynglŷn â chanlyniadau cleifion.

Daeth meddalwedd ymgynghori ar-lein, a oedd yn flaenorol yn faes ar gyfer meddygon teulu a oedd yn fabwysiadwyr cynnar, ar gael yn gyffredinol, gan ddileu’n rhannol rwystr mynediad o ganlyniad i oriau agor traddodiadol meddygon teulu, drwy fod ar gael 24/7 i gleifion. Canfu rhai clinigwyr nad oedd yn gyfarwydd ag ymgynghori ar-lein bod cynnwys y llif gwaith hwn ochr yn ochr ag ymgynghoriadau traddodiadol yn creu aneffeithlonrwydd. Mae enghreifftiau o’r rhain, a fyddai’n cael eu hystyried yn gamau gwerth isel mewn gofal iechyd, yn cynnwys: ymholiadau gweinyddol gan gleifion yn cael eu hanfon at glinigwyr, a’r angen am nifer o ymgynghoriadau er mwyn datrys problem claf, oherwydd natur anghydamserol y cyfathrebu.

Yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, fferyllfeydd cymunedol gariodd pen trymaf y baich o ran y galw am bresgripsiynau cyfnod hwy ar gyfer cleifion, tra’n ymdopi ar yr un pryd ag oedi mewn cyflenwadau, rheolau pellter cymdeithasol ac anghenion dosbarthu ar gyfer y boblogaeth oedd yn gwarchod eu hunain. Byddai cael y dewis o system e-bresgripsiynu yng Nghymru wedi helpu’n sylweddol drwy wella llif gwaith fferyllfeydd, rheoli stoc ac effeithiolrwydd. Mewn meddygfeydd meddygon teulu gallai e-bresgripsiynu fod wedi lleihau nifer y bobl oedd yn dod i mewn a lleihau’r amser a dreulir gan bresgripsiynwyr yn llofnodi presgripsiynau ac yn ymdrin ag ymholiadau am bresgripsiynau. 

Yn ystod COVID 19 mae newidiadau sylweddol yn cael ei eu gwneud i’r ffyrdd y darperir gofal iechyd heb ymgysylltu cynhwysfawr â chleifion. Wrth gwrs bod cyfarfodydd ‘gorchymyn a rheoli’ yn digwydd mewn byrddau iechyd er mwyn cynllunio strategaethau ar gyfer darparu gofal mewn sefyllfa glinigol sy’n newid yn gyflym, ac mae cyflymder y newid yn golygu y gallai fod yn anodd sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â chleifion.

Mae gennym gyfle prin i ailddiffinio sut rydym yn defnyddio adnoddau gofal sylfaenol y mae pen draw iddynt er mwyn rhoi’r canlyniadau gorau i gleifion ar lefel unigol a phoblogaeth, am y gost isaf. Rwy’n teimlo y dylem wahodd cleifion fel partneriaid cyfartal i drafod pa ymyriadau gwerth isel na ddylem fyth ddychwelyd i’w defnyddio, sut rydym yn blaenoriaethu defnydd gwasanaethau diagnostig, a pha dechnolegau ar gyfer cleifion rydym yn eu mabwysiadu a pha rai rydym yn eu gwaredu, wrth i ni ail-ddylunio ein gofal sylfaenol ar gyfer y ‘normal newydd’.

Dr Sue Goodfellow