Neidio i'r prif gynnwy
Adele Cahill

Amdanaf i

Mae Adele wedi bod yn gweithio yn y GIG ers 37 mlynedd, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Caffael i ddechrau, gan arwain y timau Caffael ar draws GIG Cymru.  Yna treuliodd amser rhwng 2010 a 2015 mewn rolau rheoli cyffredinol eraill yn cefnogi rhaglenni Newid Polisi a Thrawsnewid ar draws gwahanol Fyrddau Iechyd Cymru, cyn ymuno ag Aneurin Bevan yn 2016 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth. Adele sy'n darparu'r arweinyddiaeth strategol ar gyfer y Rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn Aneurin Bevan, a hi yw’r uwch arweinydd yng Nghanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, gan ganolbwyntio ar bartneru am werth gyda Diwydiant, y Trydydd Sector, a phartneriaethau priodol eraill. Mae Adele yn awyddus i droi'r cysyniad o Werth yn system sy'n cyd-fynd yn agosach â Diwydiant gan ddefnyddio data canlyniadau a dulliau arloesol o ystyried dull rhannu risg o 'Bartneru am Werth'.