Neidio i'r prif gynnwy
Carl Lander

Amdanaf i

Mae Carl yn Nyrs Gofrestredig sydd wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau ers cymhwyso ym 1996.  Ers gadael ymarfer clinigol ymarferol mae Carl wedi gweithio o fewn rolau Gwella Ansawdd, Adnoddau Dynol, Addysg a Rheoli Rhaglenni.  Ym mhob rôl mae wedi dod ag anghenion y cleifion i'r amlwg, gan sicrhau mai eu hanghenion hwy yw'r cyntaf a'r mwyaf blaenllaw wrth wneud penderfyniadau.  Mae'r rôl hon yn galluogi Carl i ddwyn ynghyd ei sgiliau mewn rheoli newid a'i angerdd am wella gofal pobl sydd angen unrhyw fath o ymyrraeth gan y GIG; yn enwedig y rhai ag anghenion gofal hirdymor.

Mae gan Carl anemia prin etifeddol (Diffyg Pyrwfad Cinas (PKD)). Mae hyn wedi golygu angen gydol oes am ofal clinigol.  Mae Carl yn aelod o ‘Advocacy Advisory Council’ byd-eang, gan helpu i ddatrys anghenion y rhai sydd â'r un anemia prin.  Mae hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Llywio ar gyfer y ‘PEAK Registry’, gan ddylanwadu ar y mathau o ymchwiliadau sy'n digwydd gan ddefnyddio'r swmp mawr hwn o ddata am bobl â PKD.  Mae hefyd yn cynrychioli anghenion pobl drwy eistedd ar fwrdd sefydliad di-elw yn yr Unol Daleithiau (‘Thrive with PK Deficiency’) ac mae'n gweithio i sefydlu elusen debyg yn y DU, ynghyd â bod yn Ymddiriedolwr elusen ‘Metabolic Support UK’.